Mae uBO Lite (uBOL) yn rwystrydd cynnwys sy'n seiliedig ar MV3.

Mae'r set reolau ddiofyn yn cyfateb i set hidlo diofyn uBlock Origin:

- rhestrau hidl adeiledig uBlock Origin
- EasyList
- EasyPrivacy
- Peter Lowe’s Ad and tracking server list

Gallwch alluogi mwy o setiau rheolau trwy ymweld â'r dudalen opsiynau -- cliciwch yr eicon _Gears_ yn y panel naid.

Mae uBOL yn gwbl ddatganiadol, sy'n golygu nad oes angen proses uBOL barhaol ar gyfer hidlo, ac mae hidlo cynnwys sy'n seiliedig ar chwistrelliad CSS/JS yn cael ei berfformio'n ddibynadwy gan y porwr ei hun yn hytrach na chan yr estyniad. Mae hyn yn golygu nad yw uBOL ei hun yn defnyddio adnoddau CPU/cof tra bod blocio cynnwys yn mynd rhagddo -- dim ond pan fyddwch yn rhyngweithio â'r panel naid neu'r tudalennau opsiynau y mae angen proses gweithiwr gwasanaeth uBOL.
